Шотландский
Gwel yr Adeilad
Mae'r durtur ber yn canu
A'r byd yn gorfoleddu
Mewn gwir fyw lwyddiant

A choed y maes sydd eto
Oll fel yn curo dwylo
Mewn clod a moliant

Ca'r gwyn
A gwridog fawl am hyn
Llu'r nef a'i moliant
A'r llawr cydganant
Hwy'n un enynant
Pob un a'i dant yn dyn
A'u tanllyd anthem addo nes deffro bro a bryn

Mewn pryd
Iachawdwr mawr y byd
I roi trugaredd
I blant y llygredd
Fu mhwll eu camwedd cyd
Teyrnasa dirion iesu yw gwaedd ri delu i gyd

Blackbird With Its Silk Feather